Astudiaeth ymchwil Cymru gyfan i ymchwilio i ryngweithio sydd gan blant a phobl ifanc gydag amgylchedd naturiol ac adeiledig

Young people outdoors GettyImages-1055442684


Mae ymchwilwyr o PDC yn rhan o dîm sy'n gweithio ar brosiect i ddeall sut mae plant a phobl ifanc yn rhyngweithio â'u hamgylcheddau naturiol ac adeiledig.


Gofynnir i blant rhwng 12 ac 16 oed, a'u rhieni neu ofalwyr, gymryd rhan ym mhrosiect INHABIT, a dyfodd o Grwsibl Cymru y llynedd. 


Gofynnir i gyfranogwyr lenwi holiadur ynghylch teithio llesol. Bydd y data’n arwain at brosiect mwy ar deithio llesol gyda thri maes ffocws - buddion iechyd, effaith amgylcheddol, a hygyrchedd.


Mae'r tîm yn cynnwys Dr Tracie McKinney o PDC, ac academyddion o Brifysgolion Caerdydd, Bangor, Abertawe, Aberystwyth, a Metropolitan Caerdydd.


  • Mae'r holiadur ar gael yma:  Holiadur Pobl Ifanc INHABIT

  • Os ydych chi'n riant neu'n ofalwr i rywun 12-16 oed sy'n byw yng Nghymru, gallwch hefyd wahodd eich plentyn i gwblhau fersiwn person ifanc yr holiadur drwy glicio yma.