Bydd fy ngwaith yn taflu goleuni ar ymwrthedd i wrthfiotigau yn yr amgylchedd

Talatu Usar, PhD student, Genetic and Molecular Research

Mae Chwefror 11 yn Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth. Rydym yn siarad â rhai o'n hymchwilwyr sy'n dweud wrthym pam y bu iddynt ymddiddori mewn gweithio mewn gwyddoniaeth.


Mae Talatu Usar yn fyfyriwr PhD ym Mhrifysgol De Cymru, ac yn aelod o'r Grŵp Ymchwil Genetig a Moleciwlaidd.



"Mae’n fraint fawr cael gweithio ym myd gwyddoniaeth. Mae gwyddoniaeth yn rhoi ystyr i fywyd. Mae fy ymchwil yn edrych ar broblem ymwrthedd i wrthfiotigau, sy’n golygu nad yw’r cyffuriau gwrthfiotig a ddefnyddiwn i wella heintiau cyffredin yn gweithio mwyach.

"Mae fy ymagwedd yn dod o dan ymbarél 'Iechyd Cyfunol', lle mae'n bwysig edrych ar iechyd pobl, anifeiliaid, a'r amgylchedd, a sut maent yn rhyng-gysylltiedig; mae hyn yn caniatáu i'r materion gael eu harchwilio mewn ffordd fwy cysylltiedig.

"Ers inni ddod o hyd i ficro-organebau o’n cwmpas, rwy’n ymchwilio i weld a yw bacteria o ddŵr afon, gweithfeydd trin carthion yn rhan o’r broblem, a sut mae problemau ymwrthedd i wrthfiotigau yn yr amgylcheddau hyn yn ymwneud â’r materion a welwn mewn iechyd dynol.

"Rwy’n defnyddio microbioleg i dyfu bacteria o ddŵr afonydd a gweithfeydd trin carthion, a darganfod a yw’r organebau hyn yn gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau, ac a ydynt yn dangos yr un problemau ag yr ydym yn eu gweld mewn ysbytai. Cyflawnir hyn trwy dyfu'r bacteria a gweld a oes modd eu lladd (neu beidio) ym mhresenoldeb gwahanol gyffuriau gwrthfiotig.

"Rwyf hefyd yn defnyddio dulliau genetig i edrych ar DNA y bacteria hyn. Mae hyn yn ein helpu i ddeall mwy am yr hyn sy'n digwydd, sut mae'r bacteria'n gysylltiedig, a pham y gallent oresgyn effeithiau angheuol gwrthfiotigau, a goroesi.

"Yr wythnos hon rwyf wedi bod yn sefydlu arbrofion i weld a allaf ddarganfod pam mae bacteria o'r amgylcheddau hyn yn dod yn fwy ymwrthol i wrthfiotigau. Gallai profion labordy ddweud wrthym os bydd bacteria yn dod yn fwy ymwrthol pan fyddant yn agored i halogiad yn eu hamgylcheddau, fel y rhai y gellir eu canfod mewn lefelau niweidiol mewn dŵr afonydd. Gall cael eu rhoi dan bwysau gan y ffactorau hyn newid y ffordd y mae bacteria'n ymateb, ac efallai y byddant yn gallu goroesi'n well pan fyddant yn agored i gyffuriau gwrthfiotig.

"Bydd fy ngwaith yn taflu goleuni ar ymwrthedd i wrthfiotigau yn yr amgylchedd, a sut y gallai hyn fod yn effeithio ar y tueddiadau pryderus a welwn mewn ysbytai."


Cysylltiedig