Bydd fy ymchwil yn galluogi gwyddonwyr ledled y byd i ddefnyddio carbon deuocsid fel ffynhonnell garbon ar gyfer cynhyrchu cemegau gwerthfawr

Dr Leah Matsinha, Chemistry researcher


Mae Chwefror 11 yn Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth. Rydym yn siarad â rhai o'n hymchwilwyr sy'n dweud wrthym pam y bu iddynt ymddiddori mewn gweithio mewn gwyddoniaeth.



Mae Dr Leah Charlie Matsinha yn Gymrawd Ymchwil mewn Catalysis Homogenaidd ym Mhrifysgol De Cymru. Mae Leah wedi ennill nifer o wobrau i gydnabod ei gyrfa ymchwil, gan gynnwys Cymrodoriaeth Future Leaders: African Independent Researcher (FLAIR) a ddyfarnwyd gan y Gymdeithas Frenhinol a Gwobr Ymchwilydd Gyrfa Gynnar Arthur E. Martell.


Beth ydych chi’n ei charu am wyddoniaeth?

"Rwy'n caru gwyddoniaeth oherwydd mae yna wastad rywbeth i'w ddarganfod, ei ddatrys neu ei wella, a gyda phob darganfyddiad datgelir mwy o ddirgelion. Dwi'n hynod o chwilfrydig - bob tro rydyn ni'n darganfod pethau newydd, rydyn ni'n sylweddoli nad ydyn ni'n gwybod dim o gwbl. I mi, mae hynny'n ennyn chwilfrydedd.

Dywedwch wrthym am eich ymchwil presennol

"Rwy'n gweithio ar brosiect sy'n canolbwyntio ar actifadu carbon deuocsid gan ddefnyddio cymhlygau metel pontio. Mae faint o garbon deuocsid yn yr atmosffer yn cynyddu oherwydd gweithgareddau anthropogenig. Mae gan y lefelau cynyddol hyn sawl canlyniad megis effeithiau cynyddol newid yn yr hinsawdd a gostwng asideiddio'r Cefnfor (pH).

"Mae carbon deuocsid yn nwy sefydlog iawn ac i wyddonwyr feddwl am ffyrdd o'i falu, mae angen ei actifadu. Mae fy mhrosiect yn canolbwyntio ar yr agwedd hon ac, os bydd yn llwyddiannus, bydd hyn yn caniatáu i wyddonwyr ledled y byd allu defnyddio carbon deuocsid fel ffynhonnell garbon ar gyfer cynhyrchu cemegau gwerthfawr, wrth ymdrin â phroblem amgylcheddol.

"Mae'n brosiect gwych. Rwy'n gweithio gyda thîm amrywiol o wyddonwyr o'r un anian a thalentog yr wyf yn cael rhannu gwybodaeth a syniadau gyda nhw yn ddyddiol. Yn fwy na hynny, rwy'n cael gweld ac arsylwi ar fy nghemeg ar lefel foleciwlaidd. Dyma lefel o chwyddiad lle, pe byddem yn 'chwyddo i mewn' ar y lefel honno, byddem yn gweld y moleciwlau eu hunain."