Diwrnod Bywyd Gwyllt y Byd 2023: Pam mae Eirth Malaia yn bwysig?

Wildlife - "Sun bear in a zoo tree" by Doug Greenberg is licensed under CC BY-NC 2.0




Mae Eirth Malaia yn rhywogaeth sydd dan fygythiad byd-eang sy'n dibynnu ar goedwigoedd trofannol de-ddwyrain Asia. Mae eu niferoedd wedi gostwng trwy gydol eu hystod oherwydd cyfraddau datgoedwigo uchel a hela a masnachu yn rhannau eu corff. 

Mae gan y colledion hyn ganlyniadau ehangach i iechyd y coedwigoedd y maent yn byw ynddynt gan fod Eirth Malaia yn bwyta ffrwythau ac maent yn wasgarwyr hadau pwysig. Wrth i'r eirth symud o gwmpas y goedwig, maen nhw'n gadael hadau o'r ffrwythau maen nhw wedi eu bwyta mewn pentyrrau defnyddiol o wrtaith, eu carthion! Mae hyn yn golygu bod gan yr hadau hynny fynediad ar unwaith at lawer o faetholion i'w galluogi i dyfu; weithiau gallwch ddod o hyd i'r hadau gyda'u dail cyntaf yn ymestyn allan o’u carthion! 

Mae'r berthynas hon rhwng eirth a choed yn helpu i ledaenu hadau ledled y goedwig sy'n cefnogi adfywiad naturiol y goedwig. Felly, mae canolbwyntio ymdrechion cadwraeth ar Eirth Malaia yn cael effaith gadarnhaol ar gyflwr y coedwigoedd y maent yn byw ynddynt ac adfer y coedwigoedd hynny yr effeithir arnynt gan aflonyddwch dynol.



  • Lee, D.C., Powell, V.J., & Lindsell, J.A. (2019). Understanding landscape and plot-scale habitat utilisation by Malayan sun bear (Helarctos malayanus) in degraded lowland forest. Acta Oecologica 96: 1-9.


Dr David Lee, Director of the Earth, Ecology and Environment Research and Innovation GroupMae Dr David Lee, Cyfarwyddwr Grŵp Ymchwil ac Arloesedd y Ddaear, Ecoleg a'r Amgylchedd Prifysgol De Cymru, yn ecolegydd bywyd gwyllt ac yn fiolegydd cadwraeth sydd â diddordebau academaidd ac ymchwil sy'n cynnwys defnyddio arolwg bioamrywiaeth a thechnegau dadansoddol i werthuso rhywogaethau adar a mamaliaid ac ymatebion cymunedol mewn tirweddau wedi'u haddasu, yn enwedig mewn coedwigoedd trofannol ac ecosystemau ucheldir y DU, a llywio strategaethau rheoli cadwraeth ac adfer a yrrir gan randdeiliaid. Mae wedi datblygu a chyflwyno prosiectau ymchwil cadwraeth amlddisgyblaethol mewn coedwigoedd yn Indonesia, Ynysoedd y Philipinos, Tsieina, Pacistan a Periw.