Diwrnod Rhyngwladol Menywod: Er mwyn symud ymlaen yn wirioneddol, mae angen amrywiaeth o syniadau a meddyliau sy'n deillio o gael gweithlu gydag amrywiaeth gyfoethog o gefndiroedd gwahanol

Dr Emma Hayhurst


Mae Dr Emma Hayhurst yn ficrobiolegydd moleciwlaidd ym Mhrifysgol De Cymru sydd ag arbenigedd mewn ymwrthedd gwrth-ficrobaidd. 

Mae ganddi ddiddordeb mewn trosglwyddo a chanfod ymwrthedd i wrthfiotigau yn yr amgylchedd a'r clinig, ac yn y mater ehangach o leihau presgripsiynau amhriodol drwy well diagnosteg, ymgysylltu â'r cyhoedd a gwelliannau ym maes iechyd y cyhoedd. 

Mae Dr Hayhurst a helpodd i wneud prawf cyflym ar gyfer COVID-19 newydd dderbyn £50,000 o gyllid gan y Gwobrau Menywod mewn Arloesedd i ddatblygu ymhellach yr un dechnoleg i ddiagnosio heintiau llwybr wrinol (UTIs) yn well, un o heintiau mwyaf cyffredin y byd.



Sut fyddech chi'n disgrifio eich profiad fel gwyddonydd benywaidd?

 

Yn gynnar yn fy ngyrfa, dydw i ddim yn meddwl fy mod i wir yn teimlo fy mod wedi fy niffinio yn ôl rhyw. Wrth i mi fynd yn hŷn, roedd yn rhwystredig gweld cymaint o'm cydweithwyr benywaidd talentog yn gadael y proffesiwn am na allent wneud i'r oriau hir a chontractau tymor byr weithio iddynt. Yn bersonol, ar ôl i mi ddod yn fam, canfûm fy mod wedi colli hyder yn fy ymchwil ac ail-ennill hynny sydd wedi bod yn frwydr ar i fyny. Rwyf bob amser wedi dod â'm hunan cyfan i'r gwaith, ac rwy'n credu ei fod yn nodwedd eithaf twymgalon – rwy'n wyddonydd eithaf emosiynol! Roeddwn i'n arfer teimlo'n anghyfforddus gyda hynny a'i weld bron fel gwendid ond po fwyaf hen yr af, mwyaf sicr yr wyf  na allwch fod yn neb llai na chi eich hun ac felly rwy’n llawer mwy cyfforddus bod yr union berson ydw i yn y gwaith.


Pa rwystrau fyddech chi'n dweud sy'n bodoli i chi fel gwyddonydd benywaidd a sut y gallwn ni eu goresgyn?


Rwy'n meddwl bod disgwyliad mawr o hyd y dylech weithio mewn ffordd draddodiadol – oriau hir, yn falch o beidio â chymryd eich gwyliau, gweithio'n llawn amser. Yr hyn y mae angen inni symud ato yw cydnabod a) y bydd hynny’n troi pobl i ffwrdd, yn enwedig menywod, nad ydynt am wneud y dewis hwnnw a b) nid dyma'r ffordd orau o weithio o reidrwydd. Rwy'n meddwl ei bod yn bryd dathlu safon nid nifer a sicrhau cyfle cyfartal i bob gwyddonydd, hyd yn oed y rhai sy'n dewis gweithio'n rhan-amser. Mae gweithio'n hyblyg ac yn rhan-amser yn caniatáu i bob un ohonom fod yn fwy dynol ac rwy’n meddwl bod ein gwyddoniaeth yn well oherwydd hynny.  Rwy'n eiriolwr dros yr wythnos dau i bedwar diwrnod – i bawb!


Dywedwch wrthym am eich ymchwil cyfredol


Mae fy mhrosiect presennol yn datblygu prawf pwynt gofal ar gyfer diagnosis o heintiau llwybr wrinol (UTIs). UTIs yw'r haint mwyaf cyffredin yn fyd-eang. Mae'r risg o ddioddef o UTI yn cynyddu gydag oedran – ac mae mwy na 90% o ddioddefwyr yn fenywod. Gall unrhyw un sydd wedi dioddef o UTI (a bydd dros 50% o fenywod wedi gwneud hynny) ddweud wrthych y gall hyd yn oed UTI 'anghymhleth' achosi poen ac anghysur difrifol ond gall UTIs hefyd fod yn angheuol os na chânt ddiagnosis a’u trin yn briodol – mae dros 5,000 o bobl yn marw o UTI bob blwyddyn yng Nghymru a Lloegr. Byddai ein prawf yn helpu i ddatrys y mater hwn drwy ddweud wrth y meddyg teulu a oes gan rywun UTI a pha facteria sy'n achosi'r UTI hwnnw, gan ganiatáu gwneud penderfyniadau triniaeth gwell.


Pam mae'n bwysig grymuso menywod mewn gwyddoniaeth?

Yn y pen draw, dylai'r sbardun mwyaf ar gyfer annog amrywiaeth mewn STEM fod yn ymwneud â'r budd a ddaw yn ei sgil i'r gweithlu a'r byd, yn hytrach na'r ffordd arall.  Dylem annog amrywiaeth oherwydd bod ein gweithlu'n dlawd hebddo. Efallai ein bod yn wynebu mwy o heriau nag erioed o'r blaen yn ein hanes.  Ni allwn ddatrys y problemau hyn drwy feddwl amdanynt yn yr un modd ag sy’n arferol, ac yn yr un modd ag y mae pawb arall yn ei wneud.  Er mwyn symud ymlaen yn wirioneddol, mae angen amrywiaeth o syniadau a meddyliau sy'n deillio o gael gweithlu gydag amrywiaeth gyfoethog o gefndiroedd gwahanol. Mae angen i bob person ifanc gydnabod yr heriau rydym yn eu hwynebu ac eisiau gweithio tuag at geisio eu goresgyn.



#science-CY