11-02-2022
Gallai'r byd golli hanner ei dir tyfu coffi gorau o dan senario newid hinsawdd cymedrol. Bydd y tir sy'n fwyaf addas at dyfu coffi ym Mrasil, sef cynhyrchydd coffi mwyaf y byd ar hyn o bryd, yn lleihau gan 79%.
Dyna un o brif ganfyddiadau astudiaeth newydd gan wyddonwyr yn y Swistir, a asesodd effeithiau posibl y newid yn yr hinsawdd ar goffi, cnau cashiw ac afocados. Mae'r tri yn gnydau pwysig sy’n cael eu masnachu’n fyd-eang ac sy'n cael eu cynhyrchu'n bennaf gan ffermwyr ar raddfa fach yn y trofannau.
Coffi yw'r pwysicaf o bell ffordd gyda refeniw disgwyliedig o UD$460 biliwn (£344 biliwn) yn 2022, ac mae’r ffigurau ar gyfer afocado a chnau cashiw yn $13 biliwn a $6 biliwn yn y drefn honno. Er bod coffi'n bennaf yn cael ei ddefnyddio ar gyfer diodydd ysgogol, mae afocados a chnau cashiw yn fwydydd sy’n cael eu bwyta'n eang ac sy'n gyfoethog mewn olew planhigion monoannirlawn a maetholion buddiol eraill.
Prif neges yr astudiaeth newydd yw bod newidiadau a ragwelir yn yr hinsawdd yn debygol o arwain at ostyngiad sylweddol yn y tir sy'n addas ar gyfer tyfu'r cnydau hyn yn rhai o'r rhanbarthau lle cânt eu tyfu’n bennaf ar hyn o bryd. Yn ei dro, gallai hyn effeithio ar dyfwyr a defnyddwyr ledled y byd.
Hyd yma, mae'r rhan fwyaf o ymchwil i effeithiau’r newid yn yr hinsawdd ar fwyd yn y dyfodol wedi canolbwyntio ar brif gnydau hanfodol fel gwenith, corn, tatws a hadau olew sy'n cael eu tyfu mewn rhanbarthau tymherus. Mae hyn wedi adlewyrchu tueddiad gwyddonwyr hinsawdd i ganolbwyntio ar effeithiau difrifol posibl y newid yn yr hinsawdd ar ecosystemau tymherus, yn enwedig oherwydd newidiadau mewn patrymau tymheredd a glaw.
Yn groes i hyn, bu llai o waith ar yr ecosystemau trofannol sy'n cynrychioli tua 40% o arwynebedd tir y byd, lle mae mwy na 3 biliwn o bobl yn gwneud eu bywoliaeth, gyda disgwyl y bydd cymaint ag 1 biliwn yn rhagor o bobl yn gwneud hynny erbyn y 2050au.
Mae'r trofannau hefyd yn cynnal cronfeydd enfawr o fioamrywiaeth, yn ogystal ag ardaloedd i dyfu llawer o gnydau pwysig sy'n darparu incwm a bwyd ar gyfer eu poblogaethau dynol enfawr. Mae'r ymchwil newydd yn cadarnhau ac yn ymestyn canfyddiadau'n sylweddol o'r nifer gymharol fach o astudiaethau presennol ar gnydau coffi, cnau cashiw ac afocado.
Un elfen arloesol o’r astudiaeth yw archwilio paramedrau tir a phridd yn ogystal â ffactorau hinsoddol, fel patrymau tymheredd a glaw, yn unig Mae hyn yn eu galluogi i roi darlun mwy amrywiol o effeithiau a allai newid addasrwydd rhai rhanbarthau trofannol yn sylweddol ar gyfer tyfu cnydau penodol oherwydd newidiadau mewn ffactorau fel pH neu wead pridd.
Mae'r astudiaeth newydd yn ategu ymchwil ddiweddar arall i olew palmwydd. Er ei fod yn ddadleuol ac yn aml yn gysylltiedig â dadgoedwigo, mae olew palmwydd yn dal i fod yn un o'r cnydau trofannol pwysicaf o ran maeth dynol, gan helpu i fwydo mwy na 3 biliwn o bobl.
Adolygodd cydweithwyr a minnau nifer o ddadansoddiadau modelu yn ddiweddar o sut y gallai newid yn yr hinsawdd effeithio ar nifer yr achosion o glefydau a marwoldeb mewn olew palmwydd. Y casgliad amlwg oedd bod marwoldeb coed yn debygol o gynyddu'n sylweddol ar ôl 2050, gan ddileu’r cnwd yn gyfan gwbl o bosibl yn y gwledydd Americanaidd. Yn ogystal, rhagwelwyd y bydd nifer yr achosion o glefyd pydru bonion yn cynyddu'n sylweddol ledled de-ddwyrain Asia.
Gyda'i gilydd, mae'r astudiaethau hyn yn dechrau datgelu graddau a chymhlethdod annisgwyl effeithiau newid yn yr hinsawdd a ffactorau cysylltiedig ar rai o'r cnydau a dyfir fwyaf yn y trofannau. Yn bwysig, ni fydd yr effeithiau'n cael eu dosbarthu'n gyfartal a gallai rhai rhanbarthau hyd yn oed elwa o newid yn yr hinsawdd.
Er enghraifft, mae rhannau o Tsieina, yr Ariannin a'r Unol Daleithiau yn debygol o ddod yn fwy addas ar gyfer tyfu coffi wrth i dir Brasil a Colombia fynd yn llai addas. Mae'n debygol bod llawer o'r newidiadau hyn bellach wedi'u "cloi i mewn" o leiaf am weddill y ganrif hon, waeth beth fo ymateb araf arweinwyr y byd o ran lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Felly, bydd angen i ni addasu i'r newidiadau parhaus yn y trofannau, er enghraifft drwy symud tyfu cnydau penodol i wahanol ranbarthau lle bydd effeithiau'r hinsawdd yn llai anffafriol. Fodd bynnag, mae'n ymddangos yn debygol, pa fesurau lliniaru bynnag a fabwysiedir, y bydd llawer o gnydau trofannol yn mynd yn brin ac felly'n ddrutach yn y dyfodol. O ran coffi, gallai hyd yn oed symud o fod yn ddiod bob dydd rad i fod yn rhywbeth moethus i'w fwynhau ar achlysuron arbennig, yn debyg i winoedd drud.
Gan yr Athro Emeritws Denis Murphy, Prifysgol De Cymru
01-03-2024
16-10-2023
27-04-2023
03-03-2023
03-03-2023
10-02-2023
10-02-2023
31-01-2023
16-01-2023