Tîm rhyngwladol i wneud ymchwil cynaliadwyedd

Chemistry Research Group

O'r chwith, Dr Leah Matsinha, Dr Issam Abdalghani, Dr Jonathan Turley, Dr Anna Booth, Dr Uttam Das, Joseph Goldsworthy , Shannan Southwood Samuel, Miriam Jackson, Dr Shepherd Siangwata, Dr Ranjit Bag, a Dr Nildo Costa.  Mae Dr Gareth Owen yn eistedd yn y blaen.


Mae tîm rhyngwladol o ymchwilwyr wedi'i ymgynnull ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) i fynd i'r afael â rhai o’r heriau sydd ynghlwm wrth greu dyfodol cynaliadwy.

Gareth Owen, Athro mewn Cemeg Anorganig, sy'n arwain y grŵp, sy'n dod o lefydd mor amrywiol â De America, Asia, ac Affrica, i weithio ar brosiectau sy'n canolbwyntio ar garbon deuocsid, hydrogen, a sgil-gynhyrchion prosesau diwydiannol.

Mae Dr Ranjit Bag a Dr Uttam Das yn hanu o Orllewin Bengal yn India, yn arbenigwyr ym maes cemeg a gwyddoniaeth, ac yn gweithio ar brosiect CO2 a  ariennir gan Sêr Cymru, rhaglen werth miliynau o bunnoedd gan Lywodraeth Cymru. Mae Dr Issam Abdalghani, o Balesteina, sydd hefyd yn arbenigwr mewn cemeg, yntau’n gweithio ar brosiect Sêr Cymru.

Mae dau arbenigwr cemeg arall - Dr Shepherd Siangwata a Dr Leah Matsinha – ill dau o Simbabwe, yn rhan o'r tîm. Mae Dr Siangwata yn gweithio ar brosiect yr UK Catalysis Hub, ac mae Dr Matsinha yn gweithio ar brosiect Sêr Cymru.

O Frasil, yn Ne America, mae Dr Nildo Costa, sy'n cael ei ariannu trwy FLEXIS yng Nghanolfan Ymchwil yr Amgylchedd Cynaliadwy (SERC), yn arbenigo mewn ymchwil i ddulliau storio hydrogen gyda phartneriaid diwydiannol o Ganada, Hydro Quebec.

Mae'r Ewropeaid sy’n rhan o’r tîm ymchwil yn gweithio ar draws y gwahanol brosiectau, gyda Shannan Southwood-Samuel a Joseph Goldsworthy, o'r DU, yn canolbwyntio ar bartneriaeth gyda TATA Steel; gyda Joseph hefyd yn ymwneud â'r ymchwil carbon deuocsid. Hefyd o'r DU, mae Dr Anna Booth a Dr Jonathan Turley yn cydweithio â Dr Costa ar ymchwil hydrogen yn SERC wedi’i ariannu drwy brosiect FLEXIS.

Yn olaf, mae Miriam Jackson, o'r Weriniaeth Tsiec, ar hyn o bryd yn gweithio ar gwblhau ei PhD fel rhan o brosiect TATA Steel i liniaru allyriadau sylffwr.

Mae'r prosiectau mae'r tîm yn gweithio arnynt yn cynnwys edrych ar ffyrdd o droi carbon deuocsid yn gemegau y gellir eu defnyddio gan ddiwydiant, gan felly dorri faint o'r nwy tŷ gwydr sy'n cael ei fwydo i'r atmosffer. Ariennir y rhain trwy grantiau gan Sêr Cymru a’r UK Catalysis Hub.

Mae'r prosiectau hydrogen, sy'n cael eu hariannu gan HydroQuebec a FLEXIS, yn ymchwilio i ddulliau storio'r nwy, fel y gall gael ei ryddhau pan fo’i angen a'i ddefnyddio i bweru cerbydau.

Mae’r bartneriaeth gyda Tata Steel yn edrych ar ffyrdd o ddefnyddio cynhyrchion gwastraff eu prosesau - fel nwy ffyrnau golosg, coltar, a charbon deuocsid – yn gefn i’w gwaith ar ddatgarboneiddio er mwyn lliniaru allyriadau CO2 .

Yn ôl Athro Owen, mae'r ffaith bod cynifer o arbenigwyr wedi cael eu denu i weithio ar y prosiectau hyn yn PDC yn dangos sut mae'r Brifysgol yn arwain y ffordd mewn ymchwil sy'n cael effaith fyd-eang.

"Un o brif amcanion Strategaeth 2030 y Brifysgol yw mynd i'r afael â'r heriau sydd ynghlwm wrth symud tuag at fyd mwy cynaliadwy," dywedodd Athro Owen. "Mae’r prosiectau hyn ymhlith nifer fawr o brosiectau mae PDC yn gweithio arnynt, ac mae'r gwaith hwn yn dangos ein hymrwymiad at greu dyfodol gwyrddach.

"Mae gallu denu arbenigwyr o gystal safon o bob cwr o'r byd i Brifysgol De Cymru yn dangos bod gan y rhai sydd, fel ni, yn angerddol dros fynd i'r afael â heriau amgylcheddol barch mawr tuag at ein gwaith.

"Mae hefyd yn profi fod PDC ar flaen y gad o ran ymchwil o'r fath a sut mae'r Brifysgol yn helpu datblygu amrywiaeth o arbenigwyr sy'n dewis datblygu eu gwybodaeth yma." 

Mae'r prosiectau hyn yn cael eu hariannu o nifer o ffynonellau, gan gynnwys Sêr Cymru, a'r rhaglenni FLEXIS a KESS sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru, gyda’r cyllid yn dod yn rhannol o Gronfa Ddatblygu Ewrop. Ariennir prosiect yr UK Catalysis Hub gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC). Darparwyd cyllid hefyd trwy bartneriaethau diwydiannol gyda Hydro-Quebec, Canada, a Tata Steel UK.