Croeso i'r Ysgol Gwyddoniaeth Gymhwysol. Mae ein hymchwil amlddisgyblaethol yn dod o fewn chwe thema, gyda rhyngweithio a gorgyffwrdd sylweddol rhwng y meysydd hyn. Mae gan ein staff academaidd a myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig fynediad i gyfleusterau labordy rhagorol, tra hefyd yn cynnal astudiaethau maes sylweddol. Agwedd gysylltiol ar draws pob thema yw’r pwysigrwydd a roddwn i sicrhau bod ein hymchwil yn berthnasol i faterion o bwys sy’n effeithio ar gymdeithas heddiw. Rydym yn meithrin awyrgylch colegaidd cryf ar gyfer ein holl staff ymchwil, ac yn croesawu ceisiadau am PhD neu astudiaeth Meistr trwy Ymchwil ym mhob un o’n meysydd arbenigedd.
Os ydych yn fusnes sydd angen arbenigedd, yna cysylltwch â Dr Duncan Pirrie, a fydd yn eich rhoi mewn cysylltiad â'r staff priodol. Mae ein cyfleusterau dadansoddi helaeth ar gael at ddefnydd masnachol.